Cyfieithiad answyddogol o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol (TGG) GNU i’r Gymraeg
yw hwn. Ni chyhoeddwyd mohono gan y Free Software Foundation, ac nid yw’n
mynegi’n gyfreithiol termau dosbarthu meddalwedd sy’n defnyddio TGG GNU--testun
Saesneg gwreiddiol TGG GNU yn unig a wna hynny. Serch hynny, gobeithiwn y bydd
y cyfieithiad yma’n gymorth i siaradwyr Cymraeg ddeall a gwneud gwell defnydd
o TGG GNU.

This is an unofficial translation of the GNU General Public License into Welsh.
It was not published by the Free Software Foundation, and does not legally state
the distribution terms for software that uses the GNU GPL--only the original English
text of the GNU GPL does that. However, we hope that this translation will help
Welsh speakers understand the GNU GPL better.

Fersiwn 2, Mehefin 1991

Hawlfraint (C) 1989, 1991 Free Software Foundation, Inc. 59 Temple Place, Suite 330,
Boston, MA 02111-1307 USA

Mae gan bawb yr hawl i gopïo a dosbarthu copïau gair am air o’r drwydded hon,
ond nid oes hawl ei newid.

Rhagair

Mae trwyddedau ar gyfer y rhan fwyaf o feddalwedd wedi’u cynllunio i’ch amddifadu
o’ch rhyddid i’w rhannu a’i newid. I’r gwrthwyneb mae Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol
GNU wedi’i bwriadu i warantu eich rhyddid i rannu a newid meddalwedd rhydd--i wneud
yn siwr fod pob meddalwedd yn rhydd ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Mae’r Drwydded
Gyhoeddus Gyffredinol yn berthnasol i’r rhan fwyaf o feddalwedd y Free Software
Foundation ac i unrhyw raglen mae ei hawduron yn ymrwymo i’w defnyddio.
(Mae peth meddalwedd Free Software Foundation arall yn cael ei gynnwys o fewn
y Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llyfrgelloedd yn lle hynny.) Mae modd ei gosod
ar gyfer eich rhaglenni chi hefyd.

Pan ydym yn sôn am feddalwedd rhydd (free software), rydym yn sôn am ryddid nid pris.
Mae ein Trwyddedau Cyhoeddus Cyffredinol wedi’u cynllunio i wneud yn siwr fod gennych
y rhyddid i ddosbarthu copïau o feddalwedd rhydd (a chodi am y gwasanaeth
hwn os dymunwch), eich bod yn derbyn y côd ffynhonnell neu bod modd i chi ei gael
os dymunwch, bod modd i chi newid y feddalwedd neu ddefnyddio darnau ohoni ar gyfer
rhaglenni rhydd newydd; a’ch bod yn gwybod bod bod modd i chi wneud y pethau hyn.

I ddiogleu eich hawliau, mae angen i ni osod cyfyngiadau sy’n atal unrhyw un rhag
eich amddifadu o’r hawliau hyn neu ofyn i chi ildio’r hawliau. Mae’r cyfyngiadau’n
trosi i rhai cyfrifoldebau penodol i chi os ydych yn dosbarthu copïau o’r feddalwedd,
neu yn ei newid.

Er engrhaifft, os byddwch yn dosbarthu copïau o raglen, p’un ai am ddim neu am
bris, rhaid i chi rhoi i’r derbynwyr yr holl hawliau sydd gennych chi. Rhaid
i chi hefyd wneud yn siwr eu bod hwy hefyd yn derbyn neu yn medru cael y côd
ffynhonnell. A rhaid i chi ddangos yr amodau hyn iddyn nhw wybod eu hawliau.

Rydym yn diogelu eich hawliau gyda dau gam: (1) hawlfreintio’r feddalwedd,
a (2) cynnig y drwydded hon sy’n rhoi caniatâd i chi gopïo, dosbarthu a/neu
addasu’r feddalwedd.

Hefyd, ar gyfer diogelwch pob awdur a’n diogelwch ni, rydym eisiau gwneud yn
siwr fod pawb yn deall nad oes gwarant ar gyfer y feddalwedd rydd hon. Os yw’r
feddalwedd yn cael ei haddasu gan rywun a’i phasio ymlaen, rydym am i’w derbynwyr
wybod nad y gwreiddiol sydd ganddynt, fel nad yw problemau sydd wedi’u cyflwyno
gan eraill yn adlewyrchu ar enw da’r awduron gwreiddiol.

Yn olaf, mae unrhyw rhaglen rydd o dan fygythiad parhaus patentau meddalwedd.
Rydym yn awyddus i osgoi’r perygl fod ailddosbarthwyr rhaglen rydd yn cymryd
trwydded patent, gan wneud y rhaglen yn berchnogol. I rwystro hyn, rydym wedi’i
gwneud hi’n glir y dylai unrhyw batent gael ei drwyddedu ar gyfer defnydd rhydd
pawb neu beidio gael ei drwyddedu o gwbl.

Isod ceir yr union amodau ar gyfer copïo, dosbarthu ac addasu.
TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU

TELERAU AC AMODAU AR GYFER COPÏO, DOSBARTHU AC ADDASU

0. Mae’r Drwydded hon yn berthnasol i unrhyw raglen neu waith arall sy’n cynnwys
hysbysiad wedi’i osod gan y daliwr hawlfraint sy’n nodi bod modd ei ddosbarthu o
dan amodau’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon. Mae’r “Rhaglen” , isod, yn cyfeirio
at unrhyw raglen neu waith, ac mae “gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen” yn golygu un ai
y Rhaglen neu unrhyw waith deilliannol o dan gyfraith hawlfraint: hynny yw, gwaith yn
cynnwys y rhaglen neu ran ohoni, un ai air am air neu gyda newidiadau a/neu gyfieithiad
i iaith arall. (O hyn ymlaen, bydd cyfieithu yn cael ei gynnwys heb gyfyngiad o fewn
y term “addasu” . Cyfeirir at bob daliwr trwydded fel “chi” .

Nid yw gweithgareddau ar wahân i gopïo, dosbarthu ac addasu yn cael eu cynnwys
yn y Drwydded hon; maen nhw tu allan iddi. Nid oes cyfyngiad ar y weithred o redeg
y Rhaglen, ac mae allbwn y Rhaglen yn gynwysedig dim ond os yw cynnwys yr allbwn
yn ffurfio gwaith sy’n seiliedig ar y Rhaglen (yn annibynnol o fod wedi cael
ei wneud o redeg y Rhaglen). Mae p’un ai yw hyn yn wir yn dibynnu ar beth mae’r
Rhaglen yn ei wneud.

1. Mae hawl i chi gopïo a dosbarthu copïau gair am air o’r côd ffynhonnell fel
i chi ei dderbyn, ar unrhyw gyfrwng, ar yr amod eich bod yn cyhoeddi yn eich copi
yn amlwg ac yn addas hysbysiad hawlfraint a gwadiad gwarant; yn cadw pob hysbysiad
sy’n cyfeirio at y Drwydded hon ac i absenoldeb unrhyw warant gyda’i gilydd yn gyfan;
a rhoi i dderbynwyr eraill y Rhaglen gopi o’r Drwydded hon gyda’r Rhaglen.

Mae modd i chi godi tâl am y weithred gorfforol o drosglwyddo copi, ac mae modd
i chi, yn ôl eich dewis, gynnig diogelwch gwarant yn gyfnewid am dâl.

2. Mae modd i chi newid eich copi neu gopïau o’r rhaglen neu unrhyw rhan ohoni,
gan felly greu gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen, a chopïo a dosbarthu yr addasiadau
neu’r gwaith o dan amodau Adran 1 uchod, ar yr amod eich bod hefyd yn bodloni pob
un o’r amodau hyn:

a) Rhaid i chi achosi i’r ffeiliau sydd wedi’u haddasu gario hysbysiadau amlwg yn
datgan eich bod wedi newid y ffeiliau a dyddiad unrhyw newid.

b) Rhaid i chi achosi i unrhyw waith rydych yn ei ddosbarthu neu ei gyhoeddi,
sydd yn gyfangwbl neu yn rhannol yn deillio o’r Rhalgen neu unrhyw ran ohoni,
gael ei thrwyddedu fel cyfanwaith heb unrhyw gost i bob trydydd parti dan
delerau’r Drwydded hon.

c) Os yw’r rhaglen sydd wedi’i haddasu fel arfer yn darllen gorchmynion yn
rhyngweithiol pan gaiff ei rhedeg, rhaid i chi achosi iddi, pan fydd yn cychwyn
rhedeg ar gyfer defnydd rhyngweithiol o’r fath yn y ffordd fwyaf cyffredin,
argraffu neu arddangos datganiad yn cynnwys hysbysiad hawlfraint addas a hysbysiad
nad oes yna warant (neu fel arall, yn dweud eich bod chi yn rhoi gwarant) ac y gall
defnyddwyr ailddosbarthu’r rhaglen dan yr amodau hyn, ac yn dweud wrth y defnyddiwr
sut i edrych ar gopi o’r Drwydded hon. (Eithriad: os yw’r Rhaglen ei hun yn
rhyngweithiol ond nad yw fel arfer yn argraffu datganiad o’r fath, nid oes raid
i’ch gwaith sy’n seiliedig ar y Rhaglen argraffu datganiad.) Mae’r gofynion hyn
wedi’u gosod ar y gwaith sydd wedi’i addasu fel cyfanwaith. Os ceir rhannau
y mae modd eu hadnabod o’r gwaith hwnnw sydd heb ddeillio o’r Rhaglen, a bod modd yn
rhesymol eu hystyried fel gweithiau annibynnol ac ar wahân ynddynt eu hunain, yna
nid yw’r Drwydded hon, a’i thelerau, yn berthnasol i’r adrannau hynny pan fyddwch
yn eu dosbarthu fel gweithiau ar wahân. Ond pan fyddwch yn dosbarthu’r un rhannau
fel rhan o gyfanwaith sy’n waith seiliedig ar y Rhaglen, rhaid i ddosbarthiad
y cyfanwaith fod ar delerau’r Drwydded hon, y mae ei chaniatâd i drwyddedigion
eraill yn estyn i’r cyfanwaith i gyd, ac felly i bob un rhan ohoni heb wneud
cyfrif o bwy wnaeth ei ysgrifennu.

Felly, nid bwriad yr adran hon yw hawlio hawliau na herio eich hawliau i waith sydd
wedi’i ysgrifennu yn gyfangwbl gennych chi; yn hytrach, y bwriad yw gweithredu’r
hawl i reoli dosbarthiad gweithiau deilliannol neu gyfunol sy’n seiliedig ar y Rhaglen.

Yn ychwanegol, nid yw cydgrynhoi gwaith arall nad yw wedi’i seilio ar y Rhaglen
gyda’r Rhaglen (neu gyda gwaith sydd wedi’i seilio ar y Rhalgen) ar gyfrol
o gyfrwng storio neu ddosbarthu yn dod â’r gwaith arall o fewn cwmpas y Drwydded hon.

3. Gallwch gopïo a dosbarthu’r Rhaglen (neu waith wedi’i seilio arni, dan Adran
2) mewn côd gwrthrych neu ffurf weithredadwy dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ond
i chi hefyd wneud un o’r canlynol:

a) Rhoi gyda hi y côd ffynhonnell darllenadwy i beiriant cyfatebol cyflawn,
sydd yn gorfod cael ei ddosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng
sydd yn gyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,

b) Rhoi gyda hi gynnig ysgrifenedig, sy’n ddilys am o leiaf dair blynedd, i roi
i unrhyw drydydd parti, am dâl sydd ddim mwy na’ch cost am y weithred gorfforol
o ddosbarthu côd, i’w dosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng sydd
fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,

c) Rhoi gyda hi y wybodaeth y gwnaethoch chi ei derbyn ynghylch y cynnig i ddosbarthu
côd ffynhonnell cyfatebol. (Dim ond ar gyfer dosbarthiad anfasnachol y mae’r dewis
arall hwn yn cael ei ganiatâu a dim ond os gwnaethoch chi dderbyn y rhaglen mewn
côd gwrthrych neu ffurf weithredadwy gyda chynnig o’r fath, yn unol ag Isadran b uchod.)

Mae’r côd ffynhonnell ar gyfer gwaith yn golygu ffurf ddewisol y gwaith ar gyfer
ei addasu. Ar gyfer gwaith gweithredadwy, ystyr côd ffynhonnell cyflawn yw’r cyfan
o’r côd ffynhonnell ar gyfer pob modiwl y mae’n eu cynnwys, a hefyd unrhyw ffeiliau
diffinio rhyngwyneb cysylltiedig, a hefyd y sgriptiau a ddefnyddiwyd i reoli creu
a gosod y gwaith gweithredadwy. Fodd bynnag, fel eithriad arbennig, nid oes raid
i’r côd ffynhonnell sy’n cael ei ddosbarthu gynnwys unrhyw beth sy’n cael ei ddosbarthu
fel arfer (naill ai ar ffurf ffynhonnell neu ddeuaidd) gyda phrif gydrannau (crynhoydd,
cnewyllyn, ac ati) y system weithredu y mae’r gwaith gweithredadwy yn rhedeg arno,
on bai fod y gydran honno ei hun yn dod gyda’r gwaith gweithredadwy.

Os yw’r gwaith gweithredadwy neu gôd gwrthrych yn cael ei ddosbarthu drwy gynnig
mynediad at gopi o le dynodedig, yna mae cynnig mynediad cyfatebol i gopïo’r côd
ffynhonnell o’r un lle yn cyfrif fel dosbarthu’r côd ffynhonnell, er nad yw trydydd
partïon yn cael eu gorfodi i gopïo’r ffynhonnell ynghyd â’r côd gwrthrych.

4. Nid oes hawl i chi gopïo, addasu, isdrwyddedu na dosbarthu’r Rhaglen ac eithrio
fel sy’n cael ei ddarparu mewn cymaint eiriau dan y Drwydded hon. Mae unrhyw ymgais
fel arall i gopïo, addasu, isdrwyddedu neu ddosbarthu’r Rhaglen yn ddi-rym, a bydd
yn awtomatig yn terfynu eich hawliau dan y Drwydded hon. Fodd bynnag, ni fydd partïon
sydd wedi derbyn copïau, neu hawliau, oddi wrthych dan y Drwydded hon yn cael eu
trwyddedau wedi’u terfynu cyn belled â bo’r partïon hynny yn parhau i gydymffurfio’n
llawn.

5. Nid oes raid i chi dderbyn y Drwydded hon, gan nad ydych wedi’i llofnodi.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth arall yn rhoi hawl i chi addasu neu ddosbarthu’r
Rhaglen na’r gweithiau sy’n deillio ohoni. Mae’r gweithredoedd hyn yn cael eu
gwahardd gan y ddeddf os nad ydych yn derbyn y Drwydded hon. Felly, drwy addasu
neu ddosbarthu’r Rhaglen (neu unrhyw waith sy’n seiliedig ar y Rhaglen), rydych
yn dangos eich bod yn derbyn y Drwydded hon i wneud hynny, a’i holl delerau ac
amodau ar gyfer copïo, dosbarthu neu addasu’r Rhaglen neu weithiau sy’n seiliedig arni.

6. Bob tro rydych yn ailddosbarthu’r Rhaglen (neu unrhyw waith sy’n seiliedig ar
y Rhaglen), mae’r derbyniwr yn awtomatig yn derbyn trwydded oddi wrth y trwyddedwr
gwreiddiol i gopïo, dosbarthu neu addasu’r Rhaglen yn unol â’r telerau ac amodau
hynny. Nid oes hawl gennych osod unrhyw gyfyngiadau pellach ar weithrediad derbynwyr
o’r hawliau sy’n cael ei rhoi ynddi. Nid ydych yn gyfrifol am orfodi trydydd partïon
i gydymffurfio â’r Drwydded hon.

7. 7. Os yw amodau yn cael eu gosod arnoch, o ganlyniad i ddyfarniad llys neu
honiad o dorri patent neu am unrhyw reswm arall (heb fod yn gyfyngedig i faterion
patent), p’un ai gan orchymyn llys, cytundeb neu rywbeth arall, sy’n croesddweud
amodau’r Drwydded hon, nid ydynt yn eich esgusodi rhag amodau’r Drwydded hon. Os
na allwch ddosbarthu fel ag i fodloni ar yr un pryd eich rhwymedigaethau dan y
Drwydded hon ac unrhyw rwymedigaethau perthnasol eraill, yna o ganlyniad i hyn ni
chewch ddosbarthu’r Rhaglen o gwbl. Er enghraifft, pe na bai trwydded patent yn
caniatâu i’r Rhaglen gael ei hailddosbarthu yn rhydd rhag breindal gan bawb sy’n
derbyn copïau yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwyddoch chi, yna’r unig ffordd
y gallech ei bodloni hi a’r Drwydded hon fyddai i ymatal yn llwyr rhag dosbarthu’r
Rhaglen.

Os yw unrhyw ran o’r adran hon yn cael ei hystyried i fod yn annilys neu’n amhosibl
ei gweithredu dan unrhyw amgylchiad arbennig, bwriedir gweddill yr adran i fod yn
berthnasol a bwriedir yr adran yn gyfan i fod yn berhnasol dan amgylchiadau eraill.

Nid pwrpas yr adran hon yw gwneud i chi dorri unrhyw hawlio patentau neu hawliau
eiddo eraill neu ymladd dilysrwydd unrhyw hawlio o’r fath; unig bwrpas yr adran
hon yw diogelu cyfanrwydd y system ddosbarthu meddalwedd rhydd, sy’n cael ei
weithredu gan arferion trwyddedu cyhoeddus. Mae llawer o bobl wedi gwneud
cyfraniadau hael i’r dewis eang o feddalwedd sy’n cael ei dosbarthu drwy’r
system honno ac sy’n dibynnu ar gysondeb gweithrediad y system honno; mater
i’r awdur/rhoddwr yw penderfynu a yw ef/hi yn barod i ddosbarthu meddalwedd
drwy unrhyw systemau eraill ac ni all y sawl sy’n drwyddedig orfodi’r dewis hwnnw.

Bwriad yr adran hon yw ei gwneud hi’n hollol eglur beth y credir ei fod yn
ganlyniad gweddill y Drwydded hon. 8. Os yw dosbarthiad a/neu ddefnydd y Rhaglen
hon yn cael ei gyfyngu mewn rhai gwledydd naill ai gan batentau neu ryngwynebau
wedi’u hawlfreintio, gall deiliad yr hawlfraint gwreiddiol sy’n gosod y Rhaglen
dan y Drwydded hon ychwanegu cyfyngiad dosbarthu daearyddol yn cau allan y
gwledydd hynny, fel bod dosbarthu yn cael ei ganiatâu yn unig o fewn neu rhwng
gwledydd nad ydynt wedi cael eu cau allan fel hyn. Mewn achos o’r fath, mae’r
Drwydded hon yn ymgorffori’r cyfyngiad fel petai wedi’i ysgrifennu yng nghorff
y Drwydded hon.

9. Efallai y bydd y Free Software Foundation yn cyhoeddi fersiynau wedi’u hadolygu
a/neu rhai newydd o’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol o dro i dro. Bydd fersiynau
newydd o’r fath yn debyg o ran ysbryd i’r fersiwn presennol, ond efallai y byddant
yn wahanol yn y manylion er mwyn delio gyda phroblemau neu bryderon newydd.
Rhoddir rhif fersiwn gwahanol i bob fersiwn. Os yw’r Rhaglen yn pennu rhif fersiwn
o’r Drwydded hon sy’n berthnasol iddi ac “unrhyw fersiwn diweddarach” , mae gennych
y dewis o ddilyn telerau ac amodau naill ai’r fersiwn hwnnw neu unrhyw fersiwn
diweddarach a gyhoeddir gan y Free Software Foundation. Os nad yw’r Rhaglen yn pennu
rhif fersiwn o’r Drwydded hon, gallwch ddewis unrhyw fersiwn a gyhoeddwyd erioed
gan y Free Software Foundation.

10. Os dymunwch ymgorffori rhannau o’r Rhaglen i mewn i raglenni rhydd eraill y
mae amodau eu dosbarthu yn wahanol, ysgrifennwch at yr awdur i ofyn caniatâd. Ar
gyfer meddalwedd sydd wedi’i hawlfreintio gan y Free Software Foundation,
ysgrifennwch at y Free Software Foundation; rydym ni weithiau yn gwneud eithriadau
ar gyfer hyn. Bydd ein penderfyniad yn cael ei arwain gan y ddau nod o ddiogelu
statws rhydd pob un o ddeilliannau ein meddalwedd rhydd ac o hybu rhannu ac
ailddefnyddio meddalwedd yn gyffredinol.

DIM GWARANT

11. GAN FOD Y RHAGLEN YN CAEL EI THRWYDDEDU YN RHAD AC AM DDIM, NID OES GWARANT
AR GYFER Y RHAGLEN, I’R GRADDAU Y MAE’R GYFRAITH BERTHNASOL YN CANIATÂU. AC
EITHRIO LLE CEIR DATGANIAD YSGRIFENEDIG FEL ARALL MAE DALWYR YR HAWLFRAINT A/NEU
BARTÏON ERAILL YN DARPARU’R RHAGLEN “FEL Y MAE” HEB WARANT O UNRHYW FATH, NAILL
AI WEDI’I FYNEGI NEU YMHLYG, GAN GYNNWYS, OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I WARANTAU
OBLYGEDIG YNGHYLCH MARSIANDWYAETH A FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. MAE’R HOLL RISG
YNGHYLCH ANSAWDD A PHERFFORMIAD Y RHAGLEN YN PERTHYN I CHI. PETAI’R RHAGLEN YN
PROFI I FOD YN DDIFFYGIOL, CHI SY’N YSGWYDDO COST YR HOLL WASANAETHU, TRWSIO
NEU GYWIRO ANGENRHEIDIOL.

12. NI FYDD DALWYR YR HAWLFRAINT, NEU UNRHYW BARTI ARALL A FYDD EFALLAI YN ADDASU
A/NEU AILDDOSBARTHU’R RHAGLEN FEL SY’N CAEL EI GANIATÂU UCHOD, DAN UNRYW AMGYLCHIADAU
ONI BAI BOD HYNNY’N ORFODOL DAN GYFRAITH BERTHNASOL NEU WEDI’I GYTUNO YN YSGRIFENEDIG,
YN ATEBOL I CHI AM IAWNDAL, GAN GYNNWYS UNRHYW IAWNDAL CYFFREDINOL, ARBENNIG, ATODOL
NEU GANLYNIADOL YN CODI O DDEFNYDDIO NEU ANALLU I DDEFNYDDIO’R RHAGLEN (GAN GYNNWYS
OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I GOLLI DATA NEU DDATA YN CAEL EI WNEUD YN WALLUS NEU
GOLLEDION A DDIODDEFIR GENNYCH CHI NEU DRYDYDD PARTÏON NEU FETHIANT Y RHAGLEN I
WEITHREDU GYDAG UNRHYW RAGLENNI ERAILL), HYD YN OED OS YW DALIWR O’R FATH NEU BARTI
ARALL WEDI CAEL EI GYNGHORI O BOSIBILRWYDD IAWNDAL O’R FATH.

DIWEDD Y TELERAU A’R AMODAU

Sut i Gymhwyso’r Telerau hyn i’ch Rhaglenni Newydd

Os ydych yn datblygu rhaglen newydd, a’ch bod am iddi fod mor ddefnyddiol ag y mae
modd i’r cyhoedd, y ffordd orau i gyflawni hyn yw i’w gwneud yn feddalwedd rhydd
y gall pawb ei hailddosbarthu a’i newid dan y telerau hyn.

I wneud hyn, atodwch yr hysbysiadau canlynol i’r rhaglen. Y ffordd fwyaf diogel
yw eu hatodi i ddechrau pob ffeil ffynhonnell i gyfleu’r ffaith fod gwarant wedi’i
chau allan yn y ffordd fwyaf effeithiol; a dylai pob ffeil gael o leiaf un llinell
“hawlfraint” a phwyntydd at y man lle ceir yr hysbysiad llawn.

<un llinell i roi enw’r rhaglen a syniad byr o’r hyn mae’n gwneud.>
Hawlfraint (C) <blwyddyn> <enw’r awdur>

Mae’r rhaglen hon yn feddalwedd rhydd; gallwch ei hailddosbarthu a/neu ei haddasu
dan delerau Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU fel y’i cyhoeddwyd gan 
y Free Software Foundation; naill ai fersiwn 2 y Drwydded, neu (yn ôl eich dewis)
unrhyw fersiwn diweddarach.

Mae’r rhaglen hon yn cael ei dosbarthu yn y gobaith y bydd yn ddefnyddiol, ond
HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH neu
FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. Gweler Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU am
ragor o fanylion.

Dylech fod wedi derbyn copi o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU ynghyd â’r rhaglen
hon; os na, ysgrifennwch at y

Free Software Foundation, Inc., 59 Temple Place, Suite 330, Boston MA 02111-1307
USAHefyd dylech gynnwys gwybodaeth am sut i gysylltu â chi drwy gyfrwng y post
electronig a phapur.

Os yw’r rhaglen yn rhyngweithiol, gwnewch iddi allbynnu hysbysiad byr fel hyn pan
fydd yn dechrau mewn modd rhyngweithiol:

Gnomovision fersiwn 69, Hawlfraint (C) blwyddyn enw’r awdur. Mae Gnomovision yn
dod HEB UNRHYW WARANT O GWBL; am fanylion teipiwch ‘dangoswch w’. Meddalwedd rhydd
yw hwn, ac mae croeso i chi ei ailddosbarthu dan amodau arbennig;
teipiwch ‘dangoswch c’ am fanylion.

Dylai’r gorchmynion damcaniaethol ‘dangoswch w’ a ‘dangoswch c’ ddangos y rhannau
priodol o’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol. Wrth gwrs, gall y gorchmynion rhydych
chi’n eu defnyddio fod wedi’u galw’n rhywbeth arall ar wahân i ‘dangoswch w’
a ‘dangoswch c’; gallent hyd yn oed fod yn cliciadau llygoden neu eitemau
ar ddewislen--beth bynnag sy’n addas i’ch rhaglen.

Dylech hefyd gael eich cyflogwr (os ydych chi’n gweithio fel rhaglennydd) neu
eich ysgol, os oes un, i lofnodi “gwadiad hawlfraint” ar gyfer y rhaglen, os oes
angen. Dyma sampl; newidiwch yr enwau:

Mae Yoyodyne, Inc. drwy hyn yn gwadu pob buddiant hawlfraint yn y rhaglen
‘Gnomovision’ (sy’n mwytho crynhowyr) a ysgrifennwyd gan James Hacker.
<llofnod Ty Coon>, 1 Ebrill 1989
Ty Coon, Llywydd Llygredd

Nid yw’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon yn caniatâu i’ch rhaglen gael ei
hymgorffori mewn rhaglenni perchnogol. Os mai llyfrgell isreolwaith yw eich
rhaglen, efallai y byddwch yn ystyried ei bod hi’n fwy defnyddiol cysylltu
cymwyseddau perchnogol gyda’r llyfrgell. Os mai dyma’r hyn rydych am ei wneud,
defnyddiwch Drwydded Gyhoeddus Gyfredinol Llyfrgelloedd GNU yn lle’r Drwydded hon.
